Hanes Cymru (A History of Wales in Welsh) (平装)

分类: 图书,进口原版书,History(历史),Europe(欧洲),England,
品牌: John Davies
基本信息出版社:Penguin (2007年1月25日)平装:752页正文语种:威尔士语ISBN:0140284761条形码:9780140284768产品尺寸及重量:19.2 x 12.8 x 3.6 cm ; 459 gASIN:0140284761
商品描述内容简介Yn ymestyn o'r Oesoedd Ia hyd y dwthwn hwn, mae'r gyfrol feistrolgar hon yn olrhain hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol y rhan honno o'r byd y daethpwyd i'w hadnabod fel Cymru. Dyma'r llyfr sy'n egluro pam, er gwaethaf pawb a phopeth, 'rydym yma o hyd'. Yn yr astudiaeth ddiffiniol hon o hanes Cymru, trafodir bryn gaerau cynhanesyddol, olion Rhufeinig, gorchestion a methiannau tywysogion yr Oesoedd Canol, y Diwygiad Protestannaidd, datblygiad Anghydffurfiaeth, y Chwyldro Diwydiannol, twf yr ymdeimlad cenedlaethol, streiciau'r glowyr a'r ymgyrch i ennill ymreolaeth. Yn yr argraffiad newydd hwn, y mae'r stori yn cyrraedd y cyfnod newydd sydd wedi deillio o sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol.作者简介Y mae John Davies yn frodor o'r Rhondda. Fe'i addysgwyd mewn ysgolion yn Nhreorci, Bwlchllan a Thregaron ac yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Bu'n ddarlithydd yng Ngholegau Abertawe ac Aberystwyth ac am ddeunaw mlynedd ef oedd Warden Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae Cardiff and the Marquesses of Bute, Broadcasting and the BBC in Wales, The Making of Wales, Y Celtiaid a Cardiff: a Pocket Guide. Ef yw golygydd ymgynghorol a chyd-olygydd Y Gwyddoniadur Cymreig/The Encyclopaedia of Wales. Yn 1997, ef oedd y prif siaradwr yng nghyfarfod sefydlu y North American Association for the Study of Welsh History and Culture. Mae ei wraig yn frodor o Flaenau Gwent ac mae ganddynt ddwy ferch a dau fab.